Cadw Diogelwch yn Syml: Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch trwy’r Gymraeg 

Partner dibynadwy sy’n deall anghenion busnesau yng Nghymru.

Amdanom Ni / Pwy ydw i? Helo, David Parkinson ydw i. Er fy mod wedi fy lleoli yn nwyrain Swydd Efrog ar hyn o bryd, rwy’n hanu’n wreiddiol o Ogledd Cymru ac rwy’n siaradwr Cymraeg. Ac ie, rwy'n dioddef o hiraeth!

Rwy’n gwybod bod byd Iechyd a Diogelwch yn gallu teimlo’n gymhleth ac yn llethol weithiau. Dyna pam y sefydlais D.A. Parkinson Consulting Ltd – i helpu busnesau i lywio rheoliadau mewn ffordd ymarferol, heb y fiwrocratiaeth ddiangen. Ein nôd yw "Cadw Diogelwch yn Syml."

Gwasanaeth Dwyieithog wedi’i Deilwra

Gallwn deilwra eich holl systemau, dogfennaeth a hyfforddiant Iechyd a Diogelwch yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith, yn unol ag union anghenion eich busnes.

P’un a ydych am sicrhau bod eich gweithwyr yn deall eu cyfarwyddiadau yn eu mamiaith, neu fod angen dogfennau dwyieithog arnoch ar gyfer tendrau a chontractau cyhoeddus, gallwn ddarparu gwasanaeth sy'n gweddu i chi.

Ein Arbenigedd Sector Rydym yn darparu ymgynghoriaeth arbenigol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau yng Nghymru, gan gynnwys:

Gallaf gynnig y cyrsiau achrededig LANTRA canlynol yn Gymraeg neu’n ddwyieithog:

Pam dewis ni?

  • Profiad sydd wedi ennill gwobrau: Enillais Wobr y Diwydiant Iechyd a Diogelwch yn 2023.
  • Agwedd ymarferol: Nid ydym yn credu mewn dogfennau hir sy’n casglu llwch. Os gallwn ddiogelu eich safle gydag un dudalen syml, dyna fyddwn yn ei wneud.
  • Arbenigedd Technegol: Cefnogaeth gyda COMAH, DSEAR, hyfforddiant peiriannau trwm (LANTRA) ac archwiliadau safle trylwyr.

Cysylltwch â ni heddiw Os ydych chi’n chwilio am bartner Iechyd a Diogelwch sy’n deall diwylliant a thirwedd busnes Cymru, byddwn yn falch iawn o gael sgwrs gyda chi yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Rwy'n cytuno trwy hyn y bydd y data hwn yn cael ei storio a'i brosesu at y diben o sefydlu cysylltiad. Rwy'n ymwybodol y gallaf dynnu fy nghysentiad yn ôl unrhyw bryd.*

* Indicates required fields
Thank you! We will get back to you as soon as possible.
Logo

©Copyright. All rights reserved.

Information icon

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.